Amdana i

Mae Rhodd Amser yn cael ei reoli gan Antoinette de Kleijn. Mae Antoinette yn dod o’r Iseldiroedd yn wreiddiol ac mae hi wedi byw  yng Nghanolbarth Cymru ers 1997.

Dw i wedi gweithio fel nyrs am dros 35 mlynedd, yn yr Iserdiroedd ac yng Nghanolbarth Cymru.Yn ystod y cyfnod hwn dw i wedi gofalu am lawer o bobl yn eu dyddiau olaf ac wedi eu cefnogi nhw a’u teuluoedd yn ystod yr amser anodd hwn ac yn y dyddiau a’r misoedd i ddilyn.

Mae fy mhrofiad personol yn cynnwys bod yn rhan o ddyddiau olaf perthnasau agos hen ac ifanc yn ogystal ȃ ffrindiau da a chefnogi eu teuluoedd gyda’u ffarwél terfynol.

Pan fu fy ngwr farw yn 2014 r’on i fy hun, ein merched ni, ein teulu a’n ffrindiau eisiau amser i ffarwelio. Ac i mi, y lle mwyaf naturiol i wneud hynnu oedd yn ein cartref ni. D’on i ddim wedi sylweddoli nad yw cadw rhywun yn y cartref yn dilyn marwolaeth yn rhywbeth mor gyffredin i’w wneud yma yng Nghymru ag yw e yn yr Iseldiroedd.

Canlyniad ein profiad ni oedd dechrau Rhodd Amser. I mi mae’n bwysig ei bod yn bosib i bob un gymryd cymaint o amser ag sydd angen arnynt i ffarwelio. Ac mae’n bwysig i allu gwneud hyn yn eu ffordd nhw ac yn eu cartref nhw, os mae dyna eu dymuniad. 

Rwyf wedi bod i’r Iseldiroedd i edrych ar brofiadau trefnwyr angladdau a’r technoleg maen nhw’n eu defnyddio. Wedi i mi ddarganfod ei bod yn bosib cadw rhywun gartref ar ôl marwolaeth trwy ddefnyddio technoleg diogel a dibynadwy, fe wnes i’r penderfyniad i sefydlu’r gwasanaeth Rhodd Amser.